Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 24 Mai 2018
Amser: 09.01 - 15.16
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol John Chick, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Rebecca Hardwicke, Partner Busnes Adnoddau Dynol yr Aelodau Martin Jennings, Arweinydd y Tîm Ymchwil Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau'r Comisiwn |
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams, Clerc Sian Giddins, Dirprwy Glerc |
Tystion: |
Dr Huw Pritchard, Canolfan Llywodraethiant Cymru Yr Athro Roger Awan-Scully, Canolfan Llywodraethiant Cymru |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Bwrdd i'r cyfarfod.
1.2 Llongyfarchodd y Bwrdd Adrian Crompton ar ei benodiad diweddar fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Ar ran y Bwrdd, diolchodd y Cadeirydd Adrian am ei waith, arweiniad a chymorth yn ei rôl fel uwch gynghorydd i'r Bwrdd.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Craig Stephenson i'r cyfarfod, a fydd yn cefnogi'r Bwrdd yn sgil ymadawiad Adrian.
1.4 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2018.
1.5 Trafododd y Bwrdd y darpariaethau yn y Penderfyniad o ran y treuliau eithriadol a chytunodd i drafod y mater eto yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf.
1.6 Trafododd y Bwrdd ei flaenraglen waith a chytunodd i edrych ar y mater eto ar ôl iddo gytuno ar gwmpas adolygiad y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Cynulliad.
Camau gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2018.
2.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Roger Awan-Scully a Dr Huw Pritchard, a oedd yn cynrychioli tîm ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru ar gyfer yr adolygiad, i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dr Diana Stirbu a oedd i fod i drafod yr adroddiad dros fideogynadledda, ond nad oedd yn gallu cymryd rhan oherwydd problemau technegol annisgwyl.
2.2. Trafododd y Bwrdd yr adroddiad gyda'r tîm ymchwil.
2.3. Yn ystod y trafodaethau preifat ar yr adroddiad, trafododd y Bwrdd y camau nesaf ar gyfer yr adolygiad.
Camau gweithredu
Yr ysgrifenyddiaeth i ofyn am farn y tîm ymchwil o ran camau nesaf arfaethedig y Bwrdd.
Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau i Aelodau’r Cynulliad
3.1. Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunodd i weithredu'r newidiadau canlynol o 1 Hydref 2018:
- dileu'r terfyn o 111 o oriau ar staff a gyflogir yn barhaol;
- caniatáu i'r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y cant o'u Lwfans Costau Swyddfa a'r arian llawn gan y Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu yn eu Lwfans Staffio.
3.2. Cytunodd y Bwrdd gan y byddai'r newidiadau i'r weithdrefn trosglwyddo ariannol yn cael eu gweithredu hanner ffordd drwy'r flwyddyn ariannol, byddai'r swm sydd ar gael i'w drosglwyddo yn pro rata ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19.
3.3. Cytunodd y Bwrdd i gyfrifo'r balans sy'n weddill o'r Lwfans Staffio ar y gost wirioneddol yn hytrach na chyfanswm y gost uchaf fel yw'r arfer ar hyn o bryd. Byddai'r newid hwn yn cael ei weithredo o 1 Ebrill 2019 er mwyn caniatáu i roi systemau priodol ar waith i helpu Aelodau i reoli unrhyw anwadalrwydd yn y gyllideb.
3.4. Cytunodd y Bwrdd hefyd i gyhoeddi gwariant pob Aelod unigol ar ei Lwfans Staffio ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol. Bydd yr un weithdrefn a ddefnyddir i gyhoeddi gwariant arall yn erbyn pob Aelod unigol yn cael ei dilyn er mwyn cyhoeddi'r wybodaeth. Pe bai Aelod ond yn cyflogi un aelod o staff cymorth o fewn y flwyddyn ariannol, ni fydd y wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi.
3.5. Cytunodd y Bwrdd i roi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad mewn unrhyw ddeunydd y bydd yn ei gynhyrchu ar ddiwedd yr adolygiad.
Camau gweithredu
Yr ysgrifenyddiaeth i:
- roi gwybod i Aelodau a staff cymorth am y newidiadau sydd i ddod;
- paratoi Penderfyniad diwygiedig i'w gyhoeddi ym mis Hydref 2018;
- paratoi canllawiau ar gyfer Aelodau a staff cymorth.
Ymgynghori ar hyblygrwydd y lwfansau i Bleidiau Gwleidyddol
3.6. Trafododd y Bwrdd oblygiadau'r newidiadau hyn ar y Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol a chytunodd i ymgynghori ar y cynigion a ganlyn:
- cyllidebu Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog gwirioneddol;
- cyhoeddi’r gwariant y mae pob Plaid Wleidyddol yn ei wneud ar ei Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol;
- cael gwared ar y ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy'n caniatáu ar gyfer trosglwyddo unrhyw arian newydd o Lwfans Staffio yr Aelod i'r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol.
3.7. Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 20 Gorffennaf 2018.
3.8. Cytunodd y Bwrdd i edrych eto ar y materion eraill a nodir yn ystod yr adolygiad yn ystod tymor yr hydref.
Camau gweithredu
Yr ysgrifenyddiaeth i:
- gyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion er mwyn i'r Bwrdd eu hystyried.
4.1. Trafododd y Bwrdd y materion a godwyd fel rhan o'i adolygiad canol tymor a chytunodd ei fod yn fodlon â gwaith gweithredu mewnol y Bwrdd.
Cam gweithredu
Y Bwrdd i gynnal adolygiad llawn o'i effeithiolrwydd tuag at ddiwedd ei dymor.
5.1. Nododd y Bwrdd y Polisi Urddas a Pharch diwygiedig a gafodd ei gymeradwyo gan y Cynulliad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 16 Mai.
5.2. Gan fod y Polisi wedi'i gymeradwyo, cytunodd y Bwrdd i adolygu'r polisïau y mae'n gyfrifol amdanynt. Cytunodd y Bwrdd y byddai'r gwaith hwn yn cael ei wneud ar ôl i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad gwblhau ei ymchwiliad i'r Adolygiad o'r Cod Ymddygiad i Aelodau’r Cynulliad.
Cam gweithredu
Yr ysgrifenyddiaeth i roi gwybod i'r grwpiau cynrychioliadol am y gwaith y bydd y Bwrdd yn ei wneud.
6.1. Nododd y Bwrdd yr ohebiaeth gan IPSA ar ei ymgynghoriad ar daliadau Aelodau Seneddol a pholisi cyhoeddi'r IPSA.
Cam gweithredu:
Y Bwrdd i ymateb i'r llythyr i ofyn ei fod yn cael gwybod am ganlyniad y gwaith a wneir o ystyried ei fod yn berthnasol yn uniongyrchol i'w waith.